Mae eich Senedd yn newid
Ym mis Mai 2026, bydd y ffordd y byddwch chi'n pleidleisio dros Aelodau o'r Senedd yn newid.
Bydd pawb yn cael un bleidlais ar y 7fed o Fai 2026. Bydd y system rhestr gyfrannol gaeedig newydd yn golygu y byddwch yn pleidleisio dros blaid wleidyddol.
Bydd pob plaid yn derbyn seddau yn ôl canran y bleidlais iddyn nhw ennill. Bydd pob etholaeth yn ethol 6 Aelod o'r Senedd.
Mae eich etholaeth newydd, sef Caerdydd Ffynnon Taf, wedi cael ei chreu trwy gyfuno Gogledd Caerdydd a Dwyrain Caerdydd.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Senedd Newidiadau i Etholiadau ac Aelodau'r Senedd
Ar wefan y Senedd rydych chi'n gallu rhoi eich cod post i ddod o hyd i'ch etholaeth newydd ar gyfer 2026. Dewch o hyd i'ch etholaeth yma
Cymerwch olwg ar fap o'r etholaeth newydd yma.
