Ymgeiswyr Caerdydd Ffynnon Taf - Senedd 2026
Mae pob pleidlais yn cyfrif
Mae Etholiadau Senedd Cymru 2026 yn prysur agosáu.
A gyda Phlaid Cymru ar y blaen yn y arolygon barn, nawr yw'r adeg i gefnogi'r unig blaid sydd bob amser yn rhoi Cymru a'i phobl yn gyntaf.
O dan y system bleidleisio newydd, bydd eich etholaeth yn ethol chwe chynrychiolydd, sy'n golygu fod gennych gyfle gwirioneddol i ddylanwadu ar Lywodraeth newydd Cymru – ai Llywodraeth wedi ei harwain gan Blaid Cymru fydd hi – neu un wedi ei harwain gan Reform.
Cwrdd â'r Ymgeiswyr
Dr Dafydd Trystan Davies
Mae Dafydd Trystan yn ymgyrchydd cymunedol hirsefydlog ac yn wirfoddolwr ar draws Caerdydd Ffynnon Taf. Mae ganddo record nodedig ac arobryn o wasanaeth cyhoeddus a gwirfoddol ar lefel gymunedol a chenedlaethol.
Zaynub Akbar
Mae angerdd Zaynub am gyfiawnder cymdeithasol wedi'i wreiddio yn yr adfyd a wynebodd wrth dyfu i fyny yng Nghaerdydd. Yn athletwr elit wedi ymddeol, mae hi hefyd yn dod ag arbenigedd o feysydd newyddiaduraeth, polisi a materion cyhoeddus.
Nick Carter
Mae Nick yn byw ym Mhen-y-lan ac yn briod gyda dau o blant. Mae'n gweithio yn y diwydiant eiddo masnachol ar ôl cyd-sefydlu ei fusnes ei hun yng Nghaerdydd. Mae ganddo ffocws penodol ar gefnogi busnesau bach lleol a hyrwyddo'r stryd fawr.
Andrea Gibson
Daw Andrea o Ystum Taf ac mae'n Gynghorydd profiadol yng Nghaerdydd. Mae hi'n arwain grŵp y Blaid ar gyngor Caerdydd ac wedi arwain gweithgareddau ac ymgyrchoedd cymunedol yn ei ward a thu hwnt.
Joseph Gnagbo
Mae Joseph yn byw yn Tredelerch. Mae'n ffoadur o'r Arfordir Ifori ac mae wedi cael ei anrhydeddu am ei waith cymunedol trwy ddyrchafu i orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Morgan Rogers
Daw Morgan o'r Rhath. Mae'n actifydd cymunedol hirsefydlog ac yn wirfoddolwr rheolaidd yn y banc bwyd lleol. Mae hefyd yn rhedeg ac yn ymddiriedolwr elusen ddŵr fyd-eang sy'n dod â dŵr glân i filiynau o bobl ledled y byd.
